Holl amrantau'r ser ddywedant,
"Dyma'r ffordd i fro gogoniant,"
Golau arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch,
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
I oleuo-i chwaer ddaearen,
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyr dydd,
Rhown ein goleu gwan i'n gilydd,
Ar hyd y nos.